2014 Rhif 595 (Cy. 71)

trafnidiaeth, cymru

Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Diddymu) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru, a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.

Nid oes unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw gost i fusnesau na’r sector gwirfoddol.


2014 Rhif 595 (Cy. 71)

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Diddymu) 2014

Gwnaed                               12 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       13 Mawrth 2014

Yn dod i rym                           15 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 8 a 9 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006([1]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Diddymu) 2014 a daw i rym ar 15 Ebrill 2014.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Gorchymyn 2009” (“the 2009 Order”) yw Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009([3])

Diddymu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru

3.(1) Mae Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn 2009, wedi ei ddiddymu; a

(2) mae Gorchymyn 2009 drwy hyn wedi ei ddirymu.

 

 

Edwina Hart

 

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

 

12 Mawrth 2014

 



([1]) 2006 p.5.

([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3]) O.S. 2009/2816 (Cy.243), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2009/2915 (Cy.255).